//=time() ?>
Dyma fy hoff ddarn o waith celf gan @huwaaron, dwi'n meddwl, a lle mae Chwedlau'r Copa Coch yn cychwyn.
Porth y Seirff. Dinas yn llawn lladron, twyll ac antur, o'r top i'r gwaelod. Y lle perffaith i fyw os ydych chi'n hoff o nadroedd, grisiau, a sgidia gwlyb. #chwedlyrwythnos
Ddim wedi sôn digon fan hyn am lyfrau 'Seren a Sbarc' @huwaaron a fi. Maen nhw'n gymaint o hwyl i'w sgwennu, ac mae clywed sylwadau fel hyn gan ddarllenwyr yn geiriosen ar y cyfan.
Dau lyfr yn llawn jôcs hurt am benolau a sosejus a stwff. Wnewch chi ddysgu DIM. Joio byw. https://t.co/PjuHpkrB4Y
Wedi cyffroi'n lân am gael lawnsio llyfr heddiw yn y lle mwya cŵl erioed! Ac mae 'Seren a Sbarc a'r Pei(riant) Amser' yn gracar, os ga i fod mor hŷ.
Pwy: @huwaaron a fi
Lle: Llys Llywelyn, @StFagans_Museum
Pryd: tua'r 13eg ganrif
Welwn ni chi yno, @yggllwyncelyn!