//=time() ?>
Dyma rai lluniau o rannau o adar gan y darlunydd hanes naturiol Cymreig Sydenham Edwards o gasgliad @NatMuseumArt.
Ydych chi'n adnabod unrhyw un o'r adar? Allwch chi eu henwi?
#AmgueddfaAdref #DysguAdref #GwylioAdarYrArdd
Dyma 'La Parisienne', 'Conversation' a' Young girl in blue' gan Pierre-Auguste Renoir o'n casgliad. I ddathlu pen-blwydd Renoir ddoe beth am roi cynnig ar ein her ffotograffiaeth ac ail-greu eich ffefryn. Peidiwch ag anghofio rhannu eich creadigaethau gyda ni!
#AmgueddfaAdref
Ydych chi erioed wedi meddwl sut olwg fyddai mamoth gwlanog wedi'i lapio fel anrheg? Beth am dorri allan eich hoff eitemau o'n casgliadau allan o hen bapur lapio i ddarganfod.
#GweithgareddPenwythnos
#AmgueddfaAdref #DysguAdref
Oes gennych chi hoff #Ddeinosor? Allwch chi ruo fel t-rex 🦖 neu crawcian fel pterodactyl?
Lawrlwythwch ein 'Top Trumps' Deinosoriaid 🦕 i gael mwy o hwyl deinosor!
https://t.co/KVLvL4Pgdp
#AmgueddfaAdref #DysguAdref #ArhoswchAdref #CadwchYnDdiogel