//=time() ?>
Arawn
Ar ffermdy yng nghanolbarth Cymru, roedd llais ysbrydol i’w glywed yn dweud ‘hir yw’r dydd, a hir yw’r nos, a hir yw aros Arawn’. Roedd bron neb yn mynd i’r stafell lle byddai’r llais i’w glywed gan gymaint yr ofn a barai.
1/4
#ysbrydioncymru #ysbryd
Ysbryd Atomfa Wylfa
Roedd pobl yn arfer credu bod ysbryd menyw o’r enw Emma yn hawntio atomfa’r Wylfa. Pan fu farw, claddwyd ei llwch mewn llecyn oedd yn golygu llawer iddi, ond symudwyd ei llwch pan adeiladwyd yr orsaf bŵer.
#ysbrydionCymru #ysbryd
Ysbrydion Llandawg
Yn Llandawg mae tri ysbryd yn crwydro - Ysbryd Margaret Marloes, oedd yn foneddiges yn y 13eg ganrif, Ysbryd menyw anhysbys o oes Elizabeth y 1af, ac ysbryd priodferch o’r 19eg ganrif.
#ysbrydioncymru #ysbrydioncymruefalois #llandawg #llandawke
Cath ddu Penmaenmawr
Yn Mhenmaenmawr, roedd tŷ yn cael ei hawntio gan ysbryd cath ddu. Byddai’r gath yn cysgu ar welyau yn ystod y nos ac yn diflannu yng ngolau’r bore.
#ysbrydioncymruefalois #ysbrydioncymru
Poltergeist Crug Mawr
Ger bryn Crug Mawr ger Aberteifi, roedd ysbryd yn trigo mewn ffermdy. Byddai’r ysbryd yn torri’r holl lestri, yn taflu dŵr ar hyd y llawr, ac yn rhyddhau y gwartheg o’u beudy.
1/2
#ysbrydioncymru #ysbrydionCymruEfaLois