//=time() ?>
Cath-wrach Meirionnydd
Ar fore ei briodas, taflodd ffermwr o Feirionnydd garreg at gath. Bu farw’r dyn dri mis ar ôl ei briodas, ac roedd pobl yn dweud bod y gath a darodd e yn wrach ar ffurf cath.
#GwrachodCymru #GwrachodMeirionnydd #GwrachodCymruEfaLois
Gwrachod Sir Benfro | The Witches of Pembrokeshire.
According to the tale, Pembrokeshire witches used to go to sea in eggshells.
Yn ôl y chwedl, roedd gwrachod Sir Benfro yn arfer mynd i forio mewn plisgiau wyau.
#gwrachodcymru #gwrachodcymruefalois
Elen Dal
Roedd Elen Dal yn wrach o Fiwmares. Roedd pobl yn credu eu bod hi’n un o ddisgynyddion gwrachod Llanddona. Yn ôl y chwedl, un diwrnod gwrthododd menyw roi menyn i Elen, a’r noson honno roedd gwartheg y fenyw yn eistedd ar eu pedreiniau fel cwn.
#gwrachodcymru
1/2
Moll o Redberth
Yn ôl llên werin Sir Benfro, roedd Moll yn wrach bwerus. Pan wrthododd ffermwr lleol roi cnu iddi fel y gallai ei nyddu’n efafedd, aeth Moll i’w gae a chyfri’r defaid.
1/4
#gwrachodcymru
Beti Ifan
Roedd ar bobl Beddgelert ofn Beti Ifan. Byddai potsiwr lleol yn peri problemau iddi, gan nad oedd arno ei hofn hi.
1/4
#gwrachodcymru
Gwrach Mathri | The Witch of Mathry
Yn ôl y chwedl, roedd pobl yn credu bod Gwrach Mathri yn gallu gwneud i wartheg eistedd fel cathod o flaen tân, fel nad oedd modd eu symud nhw.
1/4
#gwrachodcymru
After reading @johnreppion and @pauljholden Patreon piece on Witches today, had to scribble a Welsh Witch, what makes her welsh I hear you say? I said so, that’s why, and a pox on anybody that says otherwise!
#gwrachodcymru #cadno #llwynog
Peggi Jonin
Yn ôl y chwedl, roedd Peggi Jonin yn wrach o ardal Tregaron yng nghanolbarth Cymru. Arferai pobl ddweud amdani:
‘Peggi Jonin garrau ceimion
Cwt y gath yn lle gardyson.’
1/4
#GwrachodCymru #Inktober #HydGelf
Miss Lloyd
Roedd Miss Lloyd yn wrach o Sir Ddinbych. Yn ôl y chwedl, roedd ei thad yn glerigwr, a phan fu farw yntau, a wedi i’w chariad ei gadael hi, dechreuodd Miss Lloyd astudio llyfrau dewiniaeth.
1/8
#GwrachodCymru #HydGelf #Inktober
Ceridwen
Mae Ceridwen yn wrach sy’n ymddangos yn chwedl Taliesin. Mae hi’n berwi perlysiau mewn pair am flwyddyn a diwrnod ar gyfer un o’i phlant, Morfran. Ei gobaith yw y bydd Morfran yn yfed y cymysgedd, ac y bydd yn rhoi ‘awen a gwybodaeth’ iddo.
#GwrachodCymru
1/12
Siwsi Dôl y Clochydd
Roedd Siwsi Dôl y Clochydd yn wrach yn ardal Llanfachtreth. Yn ôl y chwedl, roedd arfer bod llawer o geirw yn y ardal, ac roedd arglwydd Nannau yn hoff o’u hela.
#GwrachodCymru #Inktober #HydGelf
Ellen Anne Pughe
Yn ôl y chwedl, yn ardal Dinbych roedd gwrach o’r enw Ellen Anne Pughe. Roedd hi’n gallu dehongli dirgelion carwriaeth, a byddai pobl yn mynd ati i ddarganfod p’un a oedd y person roedden nhw yn ei garu yn eu caru hwy yn ôl.
#gwrachodcymru #Inktober #hydgelf