//=time() ?>
Peggi Jonin
Yn ôl y chwedl, roedd Peggi Jonin yn wrach o ardal Tregaron yng nghanolbarth Cymru. Arferai pobl ddweud amdani:
‘Peggi Jonin garrau ceimion
Cwt y gath yn lle gardyson.’
1/4
#GwrachodCymru #Inktober #HydGelf
Miss Lloyd
Roedd Miss Lloyd yn wrach o Sir Ddinbych. Yn ôl y chwedl, roedd ei thad yn glerigwr, a phan fu farw yntau, a wedi i’w chariad ei gadael hi, dechreuodd Miss Lloyd astudio llyfrau dewiniaeth.
1/8
#GwrachodCymru #HydGelf #Inktober
Siwsi Dôl y Clochydd
Roedd Siwsi Dôl y Clochydd yn wrach yn ardal Llanfachtreth. Yn ôl y chwedl, roedd arfer bod llawer o geirw yn y ardal, ac roedd arglwydd Nannau yn hoff o’u hela.
#GwrachodCymru #Inktober #HydGelf
Ellen Anne Pughe
Yn ôl y chwedl, yn ardal Dinbych roedd gwrach o’r enw Ellen Anne Pughe. Roedd hi’n gallu dehongli dirgelion carwriaeth, a byddai pobl yn mynd ati i ddarganfod p’un a oedd y person roedden nhw yn ei garu yn eu caru hwy yn ôl.
#gwrachodcymru #Inktober #hydgelf